Y Daith Gerdded
Mae Taith Gerdded Treftadaeth Llanpumsaint, sydd yn dechrau o flaen Neuadd y Pentref yn filltir
a hanner o hyd ac yn cymeryd tua awr o amser. Mae'r daith mwy neu lai ar dir gwastad gyda dim ond tipyn bach
o godiad ger pont y rheilffordd. Mae'r brif daith ar heol darmac felly ni fydd eisiau esgidiau arbennig.
Estyniad Dewisol
Mae na gyfle tua hanner ffordd trwy'r daith gerdded i ymestyn y daith tu hwnt i'r pentref at
yr ardal a elwir yn Ystum Gwili. Bydd hwn yn ychwanegu 3 milltir ac yn cynnwys taith i fyny tyle ac ar draws
caeau felly argymhellir gwisgo esgidiau cadarn. Dylai yr estyniad ddewisol ychwanegu
dwy awr arall at yr amser i gerdded y daith. Mae'r pwyntiau o ddiddordeb ar yr estyniad wedi ei nodi islaw mewn
lliw melyn.